Polywrethan

Synthesis polywrethan sy'n dechrau o ddisisocyanad a diol
Oergell - enghraifft o anhepgoroldeb polywrethan

Mae'r term polywrethan (PU) yn cyfeirio at deulu mawr o polymerau lle mae'r gadwyn polymerau yn cynnwys bondiau urethane NH-(CO)-O-.

Defnyddir polymerau Urethane yn eang wrth gynhyrchu amrywiaeth fawr o ddeunyddiau.[1] Defnyddir polywrethennau wrth gynhyrchu seddau ffôm uwch-wydn, paneli inswleiddio ewyn anhyblyg, olwynion a theiars elastomerig gwydn (megis ar gyfer olwynion rholer, esgynyddion ac olwynion sglefrfyrddio), gludyddion ansawdd uchel, cotiau a seliau arwyneb, ffibrau synthetig (e.e. Spandex), tan-haen (underlay) carped, rhannau plastig caled (ee, ar gyfer offerynnau electronig), condomau, a phibellau.[2]

  1. http://polyurethanes.org/en/what-is-it
  2. https://www.youtube.com/watch?v=LnndW8rzuPY

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search